archif newyddion 2007
rhagfyr 2007
NEUADD BRO FANA
Cynhaliwyd Cinio Blynyddol y Cyngor Rheolaeth yn Y Drovers’ Arms ar nos fawrth, y 12fed o Ragfyr, a chafwyd gwledd o fwyd a chryn dipyn o hwyl a sbri fel arfer. ‘Roedd Mrs Ethel Davies a Mrs Judy Jenkins wedi trefnu cwis i ddiddori’r ciniäwyr – diolch iddynt am roi eu hamser i wneud y paratoadau. Ar y nos sul cyn y Nadolig, sef y 23ain o Ragfyr, daeth cynulleidfa dda ynghyd ar gyfer y Cyngerdd a Noson o Garolau flynyddol. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Mr Dewi Williams a Mr Aled Williams yn cynrychioli Capel Ffaldybrenin; Mrs Joan Morgan a Mr Elfyn Davies o Capel Bethel, Cwm Pedol; Mrs Ethel Davies a Mrs Judy Jenkins o Eglwys Llanycrwys; Mrs Ann Jones, Miss Carwen Richards a Mr Eirian Jones o Gapel Salem Caio; a Mr a Mrs Bob Lewis o Gapel Saron, Cwm Twrch. Arweiniwyd y Noson yn fedrus gan Gadeirydd Cyngor y Neuadd, Mr Eirian Morgan, gyda’r Hybarch Andy John yn cyhoeddi’r fendith. Eleni, cawsom gwmni Côr Lleisiau’r Werin o Lanybydder, o dan arweiniad Mrs Elonwy Davies, yn cyfrannu eitemau yn ystod y noson, a chafwyd mwynhad mawr yn gwrando arnynt yn cyflwyno amryw o eitemau ag iddynt naws y Nadolig. Penderfynwyd cyflwyno elw’r noson i elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a rhaid diolch i Miss Lowri Davies, Llys Helen, sydd yn gweithio gyda Banc Barclays yn Llambed, am drefnu i noddi’r noson o dan gynllun £1 am £1 Barclays. Bydd y swm terfynol a gasglwyd yn cael ei gyhoeddi yn y rhifyn nesaf o’r Lloffwr.
FFAIR GREFFTAU FLYNYDDOL
Cynhaliwyd y bedwaredd Ffair Grefftau Nadolig yn Neuadd y Coroniad, Pumsaint ar ddydd Gwener, Tachwedd 30ain a dydd Sadwrn, Rhagfyr 1af 2007. Arddangoswyd amryw o grefftau gan grefftwyr lleol - 'roedd yn wledd i’r synhwyrau! Ymhlith y pethau gellir eu prynu gwelwyd lluniau wedi eu harlunio, ffotograffiaeth, ‘decoupagé’, gwaith coed, cacennau, jam a picl, gemwaith, cardiau o bob math, addurniadau Nadolig, clustogau, brodwaith ac eitemau yn cynnwys pêr lysiau. Cefnogwyd y Ffair gan ymwelwyr yn gyson drwy’r ddau ddiwrnod a gellir cael paned o dê a chlonc yn ogystal â siopa. Hoffai’r trefnwyr ac arddangoswyr ddiolch i bawb am eu haelioni - fe adlewyrchwyd hyn yn y cyfanswm o £300 a godwyd ar ran elusen Canser y Fron. Gwnewch nodyn o’r dyddiadau ar gyfer y bumed Ffair, sef Tachwedd 28ain a 29ain 2008.
EGLWYS LLANYCRWYS
Cynhaliwyd Gyrfa Chwist flynyddol Eglwys Llanycrwys yn y Neuadd ar Nos Lun, Rhagfyr y 3ydd. Cafwyd noson hwylus gyda Mrs Stella Davies, Pantfud yn arwain y gweithgaredd.
CROESO
Mae’n hyfryd cael croesawi Mr a Mrs Alvin Morgan yn ôl i’r pentref. Maent bellach wedi ymgartrefu yn Nhrefechan, nid nepell o Lys Meirion lle bu’r teulu yn byw tan rhai blynyddoedd yn ôl.
CYNGERDD CLASUROL
Byddwn yn croesawi Cerddorfa Siambr Llambed yn ôl i’r Neuadd ar brynhawn dydd Sul, y 27ain o Ionawr i gynnal cyngerdd o gerddoriaeth clasurol. Cafwyd prynhawn hwylus yn eu cwmni flwyddyn yn ôl, ac mae’n siwr y cewn ein plesio eleni eto. Bydd y gyngerdd yn cychwyn am 3.30 y.p., ac fe fydd paned a chyfle am glonc yn ystod yr egwyl. Croeso cynnes i bawb.
LLOFFA
Os oes gennych ddiddordeb mewn enwau lleoedd, dewch i’r Neuadd ar Nos Fawrth, yr 11fed o Chwefror i wrando ar Yr Athro David Thorne o Goleg Dewi Sant, Llambed a fydd yn ‘lloffa ym myd enwau lleoedd lleol’. Mae’n siwr y bydd hon yn noson ddifyr, a chyfle i ddysgu am darddiad enwau rhai o’r lleoedd o gwmpas yr ardal yma. Bydd y noson yn cychwyn am 7.30 y.h., a noddir y digwyddiad gan ‘Milltir Sgwar’.
TRWYDDED CLUDO ANIFEILIAID
Os ydych chi yn un o’r ffermwyr hynny sydd angen trwydded ar gyfer cludo anifeiliaid o gwmpas, mae’r amser yn prynhau. Mae cwrs wedi ei drefnu ar eich cyfer yn Neuadd Bro Fana ar Nos Iau, Chwefror y 7fed 2008. Bydd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant yn ogystal a’r prawf. Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs, cysylltwch gyda Mr Rhys Davies ar 01558 650507 cyn gynted a phosibl.
tachwedd 2007
CÔR GODRE’R ARAN
Pleser oedd croesawi Côr Godre’r Aran yn ôl i Ffarmers unwaith eto, a hyfryd oedd gweld Neuadd Bro Fana yn llawn ar gyfer cyngerdd rhagorol. Cafwyd rhaglen amrywiol o gerddoriaeth gan y Côr o dan arweiniad medrus Eirian Owen, yn ogystal ag eitemau gan y ddwy unawdydd – Sian Eirian (Soprano) a Sioned Wyn (Contralto) – y ddwy yn enillwyr cenedlaethol. Llywyddion y noson oedd Mr a Mrs Raymond Roberts, Gelli Aur, Parcyrhos – Mrs Verina Roberts a chysylltiad teuluol agos a’r ardal, ac yn gyn-ddisgybl yn ysgol y pentref; a Mr Raymond Roberts, mae’n debyg, wedi cystadlu pan yn ifanc yn Eisteddfod Ffarmers. Cafwyd araith ddiddorol gan Mrs Roberts, yn sôn am ddyddiau plentyndod yn yr ardal, a phwysigrwydd cerddoriaeth o fewn y teulu. Diolch o galon i’r ddau ohonynt am eu presenoldeb, ac am gyfraniad hael tuag at gronfa’r Neuadd. Cyflwynwyd blodau i’r Llywyddion gan Luned Jones, Maesionydd. Cyflwynwyd torch o flodau yr un i arweinydd y Côr ynghyd a’r ddwy unawdydd gan Mrs Ethel Davies, Cadeirydd Cyngor y Neuadd. Mae Côr Godre’r Aran bellach ar daith i’r Ariannin, ac yn cynnal nifer o gyngherddau yn Y Wladfa – pob hwyl iddynt.
CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR RHEOLAETH Y NEUADD
Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar Nos Fawrth, y 13eg o Dachwedd, ac fel arfer, cafwyd cynrychiolaeth dda o’r gymuned leol. Etholwyd Eirian Morgan, Swn yr einion yn Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn nesaf. Wrth gymeryd yr awennau, diolchodd i Mrs Ethel Davies, Llys Helen am ei chyfraniad gwerthfawr dros gyfnod o bedair mlynedd fel Cadeirydd – cyfnod a welodd ddatblygiadau pwysig yn hanes y Neuadd. Etholwyd Mrs Judy Jenkins, Llys Awel yn is-Gadeirydd; Irwel Jones, Buarth yr oen yn Drysorydd, ac Elfyn Davies, Troed y bryn yn Ysgrifennydd. Llywydd y Neuadd yw Mrs Ray Davies, Peronne gyda Miss Iris Evans, Maesuchaf a Mrs Eirwen Thomas, Ty’nrheol yn trefnu y Clwb Cefnogwyr. Wrth gloi’r cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i holl aelodau’r Pwyllgor am eu cefnogaeth parod, a’u cyfraniad tuag at weithgareddau’r Neuadd.
CYFLWYNIAD
Cafwyd cyfle yng nghyngerdd Côr Godre’r Aran i anrhydeddu un o swyddogion Cyngor y Neuadd am gyfraniad arbennig. Mae Irwel Jones wedi bod yn Drysorydd y Neuadd ers ugain mlynedd bellach, a braf oedd cael dathlu carreg filltir felly drwy gyflwyno anrheg iddo. Irwel yw’r pumed Trysorydd mewn cyfnod o 76 mlynedd – mae’n amlwg fod Cyngor y Neuadd yn edrych ar ôl swyddogion yn dda.
NOSON ‘HEN BETHAU’
Daeth tyrfa dda ynghyd i’r Neuadd ar Nos Lun, y 19eg o Dachwedd i wrando ar y Parchedig Felix Aubel yn siarad am hynafolion. ‘Roedd gan y gŵr gwadd gasgliad diddorol o grochenwaith Swydd Stafford ei hunan i’w harddangos, a diddorol oedd gwrando arno yn sôn am ei gasgliad gwerthfawr. Yn ogystal a hyn, manteisiodd nifer o bobl ar y cyfle i ddod ag eitemau o ddiddordeb ganddynt, a chafwyd noson ddifyr yn archwilio a gwrando – a mwynhau paned a chlonc cyn troi tuag adref. Diolch i Gronfa Milltir Sgwar am noddi’r noson.
ANRHEG NADOLIG
Os ydych yn chwilio am anrhegion Nadolig, cofiwch am y llyfr hanes lleol a gyhoeddwyd ar ddechrau’r flwyddyn. Mae ‘Hanes Neuadd Bro Fana a’r Gymuned Leol yn Ffarmers a Ffaldybrenin’ yn anrheg delfrydol ar gyfer perthnasau a chyfeillion ymhell ac agos. Gallwch brynu’r llyfr oddiwrth aelodau Cyngor Rheolaeth y Neuadd, neu gallwch gael copi o’r Swyddfa Bost a’r Drovers’ Arms yn Ffarmers; WD Lewis a’i Fab ym Mhumsaint; Siop y Smotyn Du a Siop Lyfrau’r Coleg yn Llambed, a Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin. Llyfr dwy-ieithog yn llawn hanes diddorol a lluniau yn ymwneud a bywyd y gymuned leol – a’r cyfan am £12.50.
CYNGERDD A NOSON O GAROLAU
Fel sy’n arferiad ers blynyddoedd bellach, cynhelir Cyngerdd a Noson o Garolau yn Neuadd Bro Fana ar y nos Sul cyn y Nadolig, sef y 23ain o Ragfyr. Bydd aelodau’r Eglwys a’r Capeli lleol yn cymeryd at y rhannau arweiniol, ac mi fydd Côr Lleisiau’r Werin o Lanybydder yn ymuno a ni i gynnal cyngerdd a chanu carolau. Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i’r gymuned i ymuno a dathlu gwir ystyr y Nadolig. Fel arfer, bydd paned a mins-pei ar ddiwedd y noson.
hydref 2007
LLONGYFARCHIADAU
Hyfryd gweld un o blant yr ardal yn llwyddo, a phleser gennym estyn ein llongyfarchiadau i Gwennan Evans, Glasdir ar ennill y gadair yn Eisteddfod Sir y Clybiau Ffermwyr Ifanc ym Mhontyberem yn ddiweddar. Ennillodd Gwennan y gadair am gyfansoddi cerdd ar y testun ‘Gwawr’ – a dyma’r ail dro iddi ennill y gadair yn yr Eisteddfod. Mae Gwennan yn fyfyrwraig yn yr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru ym Mangor, ac yn astudio Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol. Pob hwyl i ti ar gyfer y dyfodol.
CARTREF NEWYDD
Estynnwn ein dymuniadau gorau i Mr a Mrs Edward Grace, Llwynhelyg gynt, wrth iddynt ymgartrefi yn Llys Llanfair, Llanymddyfri. Bu’r ddau ohonynt yn byw yn Llwynhelyg ers blynyddoedd maith wedi symud yn wreiddiol o Gaerdydd. ‘Roedd y ddau ohonynt yn barod eu cymwynas, ac yn weithgar o fewn y gymdeithas gyda’r Neuadd, yr Eglwys ac ati.
CYNGERDD PRYNHAWN
Cafwyd prynhawn hyfryd o gerddoriaeth glasurol yn Neuadd Bro Fana ar y 14eg o Hydref pan ymwelodd triawd go arbennig a’r pentref. Wrth y piano, ‘roedd William Hayward o’r Amwythig, gŵr dawnus a dderbyniodd hyfforddiant yn y Coleg Cerdd Brenhinol o dan Sir Adrian Boult, Herbert Howells, James Lockhart a Richard Austin. Yn ogystal a pherfformio, mae’n cyfeilio, trefnu ac arwain. Yn wir, mae newydd ddychwelyd o arwain Cerddorfa Ffilharmonig Tokyo. David Cooper oedd yn chwarae’r ffidil. Derbyniodd ef ei addysg gerddorol yn y ‘Birmingham Conservatoire,’ ac mae’n berfformwr cerddoriaeth siambr o fry. Wendy Reardon oedd yn chwarae’r Soddgrwth, hithau hefyd wedi astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol, ac yn arbennigo mewn cerddoriaeth siambr. Perfformiwyd rhaglen yn cynnwys gwaith Felix Mendelssohn a Frank Bridge.
ARDDANGOSFA GREFFTAU
Ers rhyw flwyddyn bellach, mae grŵp o wragedd lleol wedi bod yn cwrdd yn Neuadd Bro Fana yn gwneud crefftwaith – mae yna gyfle i weithio ar decoupage, cwiltio, gweu, crosio, les, nyddu, gwehyddu, paentio, clytwaith, gwneud cardiau ac ati. Mae’r grŵp yn cwrdd ar nos fercher rhwng 7.00 a 10.00 yr hwyr, ac yn ôl pob sôn, mae’n dipyn o hwyl. Maent yn cymeryd yr enw ‘C-L-O-W-Ns’ (Creative Ladies on Wednesday Nights), ac mae croeso i unrhyw un ymuno a hwy. Ar ddiwedd mis Gorffennaf, cynhaliwyd Ffair Grefftau yn y Neuadd i arddangos a gwerthu eu cynnyrch, a chafwyd diwrnod llwyddiannus dros ben. Yn ogystal a’r ffair, trefnwyd raffl a stondin de a chacennau, a chodwyd £100 gan y grŵp a’i gyflwyno i Gronfa Parc Chwarae’r Plant. Diolch iddynt am eu cefnogaeth parod.
NOSON YNG NGHWMI FELIX AUBEL
Byddwn yn croesawi Felix Aubel i Ffarmers ar y 19eg o Dachwedd. Mae croeso i chi ddod ag eitemau gennych i’w harddangos / prisio erbyn 7.00 o’r gloch. Bydd y noson yn cychwyn yn brydlon am 7.30. Mae’r noson yn cael ei noddi gan Milltir Sgwar.
EGLWYS LLANYCRWYS
Bydd Gyrfa Chwist flynyddol yr Eglwys yn cael ei chynnal yn y Neuadd ar y 3ydd o Ragfyr, ac estynnir croeso cynnes i bawb i ymuno yn y chwarae. Y feistres fydd Mrs Stella Davies, Pantfyd, Esgairdawe.
medi 2007
LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Ian O’Connor, Buarth yr Oen ar ennill tlws disgybl dan hyfforddiant o Goleg Sir Gâr, Gelli Aur. Mae Ian yn cwblhau Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 4, ac yn cael ei asesu ar safon a chynnydd yn ei berfformiad yn y gweithle. Da iawn ti – dal ati!
CYDYMDEIMLAD
Blin gennym gofnodi marwolaeth Justin Smith, Caerdydd yn dilyn cyfnod hir o afiechyd, ac estynnwn ein cydymdeimlad i’w briod, Shân Cothi yn ei cholled.
DIOLCH
Dymuna Mrs Ray Davies, Peronne ddiolch o galon i bawb am yr anrhegion, cardiau, galwadau ffôn, a chyfraniadau tuag at Ambiwlans Awyr Cymru ar achlysur ei phenblwydd yn 80 oed. Derbyniodd yr Ambiwlans Awyr siec o £260.00 Mae hefyd yn diolch am y cyfarchion a’r anrhegion a dderbyniodd wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Bronglais yn derbyn triniaeth law-feddygol. Mae’n gwerthfawrogi pob cymwynas a dymuniadau da yn fawr iawn.
PARC CHWARAE
Yn dilyn ymron i flwyddyn o waith caled gan nifer o rieni a chyfeillion sydd wedi bod wrthi’n ddyfal yn codi arian, mae’r rhan gyntaf o’r cynllun i ddarparu offer chwarae i’r plant ar Barc Bro Fana wedi ei gwblhau, ac mae’r plant yn amlwg wrth eu bodd gyda’r ddarpariaeth. Mae’r Pwyllgor wrthi’n barod yn cynllunio ar gyfer y cam nesaf yn y datblygiad. Diolch iddynt am eu hymroddiad, a phob lwc gyda’r gwaith.
CYNGERDD PRYNHAWN
Bydd Cyngerdd yn Neuadd Bro Fana ar brynhawn Sul, y 14eg o Hydref am 3.30 gyda grwp o gerddorion sy’n perfformio o dan yr enw ‘Fuori Sposati’ – William Hayward ar y piano, David Cooper ar y ffidil a Wendy Reardon ar y soddgrwth. Byddant yn perfformio rhaglen amrywiol, a rhaid nodi fod y cerddorion yma o safon uchel – yn wir, mae William Hayward newydd ddychwelyd o Siapan lle y bu yn arwain Cerddorfa Ffilharmonig Tokyo. Mae croeso i chi ymuno a ni am wledd o gerddoriaeth – a chwpaned o de ar y diwedd.
CÔR GODRE’R ARAN
Bydd Côr Godre’r Aran yn rhoi cyngerdd yn Neuadd Bro Fana ar Nos Sadwrn, y 3ydd o Dachwedd, gan gychwyn am 7.30. Llywyddion y noson fydd Mr a Mrs Raymond Roberts, Parcyrhos. Mae tocynnau ar gael erbyn hyn, ac os am archebu tocynnau, cysylltwch ag unrhyw un o aelodau’r pwyllgor, neu anfonwch e-bost i neuaddbrofana@ffarmers.org. Am fanylion llawn o weithgareddau’r gaeaf, ewch ar y we – www.ffarmers.org.
NOSON YNG NGHWMI FELIX AUBEL
Fe gofiwch fod Pwyllgor Neuadd Bro Fana wedi trefnu noson yng nghwmni Felix Aubel ar ddechrau’r flwyddyn i drafod hynafolion, ond oherwydd y tywydd garw ar y pryd, bu’n rhaid gohirio. ‘Rydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi sicrhau dyddiad arall, a byddwn yn croesawi Felix Aubel i Ffarmers ar y 19eg o Dachwedd. Mae croeso i chi ddod ag eitemau gennych i’w harddangos / prisio erbyn 7.00 o’r gloch. Bydd y noson yn cychwyn yn brydlon am 7.30. Mae’r noson yn cael ei noddi gan Milltir Sgwar.
gorffennaf/awst 2007
LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Roy a Judy Jenkins, Llys Awel ar ddathlu ei priodas arian. ‘Roedd eu meibion, Lewis a Philip hefyd yn dathlu eu penblwydd tua’r un adeg – Lewis yn 21ain a Philip yn 18aw. Cafwyd parti yn y Drovers i ddathlu’r achlysuron arbennig yma – noson i’w chofio. Llongyfarchiadau i Lewis hefyd ar gwblhau ei gwrs Coleg, ac ennill ei radd mewn peirianneg drydanol.
Un arall o fechgyn yr ardal i brofi llwyddiant yn ddiweddar yw Ian O’Connor, Buarth yr oen a ddaeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth gneifio a drefnwyd gan fudiad y Ffermwyr Ieuanc yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf. Da iawn ti.
Dymunwn benblwydd hapus i Mrs Ray Davies, Peronne ar ddathlu ei phenblwydd yn 80ain oed. Ysgrifennodd cyfaill iddi y darn canlynol wrth iddi ddathlu penblwydd go arbennig.:-
Dwi’n caru bywyd
Heddiw Arglwydd, dwi’n 80 oed, diolchaf ar fy neulin –
Ond carwn eto Arglwydd flasu 81.
Dwi am i’r hwyl a’r sbri barhau -
Ymlaen a’r sbort hyd 82.
Mynd a mynd i bobman y carwn i -
Ac ymlaen eto i 83.
‘Mi dafla maich oddi ar fy ngwar’
A byw yn rhydd hyd 84.
Bod yn wrol, er gwaetha’r limp –
O am nerth i gyrraedd 85.
Ac, o mi fydd ‘na sgrech
‘Rôl cyrraedd 86.
Yn annwyl iawn i mi yw Gwalia a’r hen iaith –
Llefaru hi y carwn pan rwyn 87.
Melysach eto fydd y ffrwyth -
Ond i mi aeddfedu i 88.
Wedyn, ymdawelu falle, ie? Ond taw –
Ymlaen a fi hyd cyrraedd 89.
Un peth arall Iôr, cais bach, un eitha’ teg.
Os mae’n iawn a thi, dwi am fyw ar ôl 90.
GWELLHAD BUAN
Bu Mr Elgan Jones, Tremavon yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar. Mae’n dda ei weld adref, ac yn gwella. Mae Mrs Ray Davies, Peronne hefyd newydd dreulio cyfnod yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth law-feddygol. Estynnwn ein dymuniadau gorau iddi am adferiad llwyr a buan.
ARDDANGOSFA A FFAIR GREFFTAU
Cynhaliwyd arddangosfa a ffair grefftau gan aelodau’r Clwb Crefftau yn Neuadd Bro Fana ar ddydd Sadwrn yr 28ain o Orffennaf. Cafwyd diwrnod llwyddiannus gydag amrywiaeth o waith llaw ar gael. Yn ogystal a’r ffair, ‘roedd aelodau’r Clwb wedi trefnu raffl i godi arian tuag at brynu offer i’r parc chwarae yn y pentref.
CARNIFAL A MABOLGAMPAU
Cynhaliwyd y Carnifal a Mabolgampau blynyddol ar Barc Bro Fana ar ddydd Sadwrn, yr 11eg o Awst. Cafwyd diwrnod braf, gyda’r plant, a’r oedolion yn mwynhau’r cystadlu. Yn ogystal a’r carnifal, ‘roedd yna hefyd fabolgampau i’r plant a’r oedolion, gyda gêm beldroed i gloi’r gweithgareddau. Llywyddion y dydd oedd Delyth ac Aled, Waungilwen ger Drefach Felindre. Mae Delyth yn adnabyddus yn yr ardal fel yr ieuengaf o ferched Tanyresgair, ac mi fu yn weithgar iawn ar Bwyllgor y Carnifal a nifer o fudiadau arall yn yr ardal am flynyddoedd, ac ‘roedd yn hyfryd cael ei chwmni ynghyd a’r teulu ar y dydd. Enillwyd Cwpan Coffa Elin Thomas eleni gan Lisa Jones, Swn y Nant. Enillwyr Cwpan Her Clwb y Groesffordd eleni oedd Eirwyn a Carwen Richards, Cwmcelynen.
NEUADD BRO FANA
Mae pwyllgor Neuadd Bro Fana yn brysur yn paratoi rhaglen o weithgareddau ar gyfer gaeaf 2007 / 2008. Byddwn yn croesawi Côr Godre’r Aran yn ôl i’r Neuadd ar Nos Sadwrn y 3ydd o Dachwedd, gyda Mr a Mrs Raymond Roberts, Gelli Aur, Parcyrhos yn Llywyddion y noson. Byddwn yn croesawi ‘Lleisiau’r Werin’ o dan arweinyddiaeth Mrs Elonwy Davies, Llanybydder i’r ‘Cyngerdd a Noson o Garolau’ a gynhelir ar y Nos Sul cyn y Nadolig, sef y 23ain o Ragfyr. Mae’r noson yma yn gyfle i’r eglwys a chapeli’r ardal ymuno i gynnal gwasanaeth o fawl, a dathlu genedigaeth yr Iesu. Bydd Cerddordfa Siambr Llambed yn perfformio yn y Neuadd ar brynhawn dydd Sul, y 27ain o Ionawr 2008. Cafwyd cyngerdd arbennig yn eu cwmni ar ddechrau 2007, ac edrychwn ymlaen i’w croesawi eto. Mae trefniadau ar gyfer nifer o ddigwyddiadau arall hefyd i’w cwblhau, ac fe’u cyhoeddir yn ystod y misoedd nesaf.
Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Cyhoeddus Blynyddol yn y Neuadd ar Nos Fawrth, y 9fed o Hydref am 8.30 y.h. Estynnir croeso cynnes i drigolion yr ardal i fynychu’r cyfarfod.
CYRDDAU DIOLCHGARWCH
Bydd Eglwys y Methodistiaid, Saron, Cwm Twrch yn cynnal ei Cwrdd Diolchgawrch ar Nos Iau, y 13eg o Fedi am 7.00 o’r gloch, gyda’r Parchedig Eileen Davies, Llanllwni yn gwasanaethu. Bydd yr Oedfa Ddiolchgarwch ym Methel, Cwm Pedol ar Nos Fercher y 26ain o Fedi am 6.30 gyda’r Parchedig Cynwil Williams, Caerdydd yn gwasanaethu. Ar Nos Fawrth yr 2ail o Hydref, cynhelir Cwrdd Diolchgarwch Salem, Caeo am 7.00 y.h. gyda’r Parchedig Cen Llwyd, Talgarreg yn gwasanaethu.
Salem fydd lleoliad Cymanfa Undebol Dyffryn Cothi eleni hefyd, a gynhelir ar Ddydd Sul y 7fed o Hydref. Bydd un oedfa yn unig yn cychwyn am 2.00 o’r gloch, gyda’r Parchedig Lynn Rees, Rhydaman yn arwain. Cynhelir rihyrsal ar gyfer y Gymanfa ar Nos Sul, yr 16eg o Fedi yng Nghapel Shiloh, Llansawel am 6.00 o’r gloch gyda Mrs Elonwy Davies, Llanybydder yn arwain.
mehefin 2007
CYFARFOD RHWYDWAITH CYMUNEDOL Y TYWI
Cynhaliwyd cyfarfod gan Rhwydwaith Cymunedol y Tywi yn y Neuadd ar Nos Fawrth, y 19eg o Fehefin dan gadairyddiaeth y Cynghorydd lleol, Mr Eirwyn Williams, Cwmann. Daeth cynrychiolwyr o nifer o fudiadau gwirfoddol yn ardal Dinefwr i’r cyfarfod, a chafwyd cyflwyniadau gan gynrychiolwyr Mudiad y Ffermwyr Ieuainc, Menter Bro Dinefwr, Heddlu Dyfed Powys, trafodaeth ar Wefannau Cymunedol ac ati. Ar yr un noson, ‘roedd swyddogion o’r Biwro Cymunedol yn bresennol i roi cymorth i grŵpiau cymunedol sydd yn edrych am gyllid i ddatblygu prosiectau yn eu ardaloedd.
PENBLWYDD HAPUS
Dymunwn benblwydd hapus i Mrs Grace, Llwynhelyg a oedd yn dathlu ei phenblwydd yn ddeg a phedwar ugain mlwydd oed ddiwedd mis Mehefin.
ARDDANGOSFA A FFAIR GREFFTAU
Mae aelodau’r Clwb Crefftau, sydd wedi bod yn cwrdd yn y pentref ers rhyw flwyddyn bellach, yn trefnu arddangosfa o’u gwaith ynghyd a ffair grefftau yn Neuadd Bro Fana ar ddydd Sadwrn yr 28ain o Orffennaf. Os am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Mrs Judy Jenkins, Llys Awel, Ffarmers.
CARNIFAL, MABOLGAMPAU A MERLODGAMPAU
Mae Pwyllgor Mabolgampau Bro Fana yn brysur yn paratoi ar gyfer y Carnifal a’r Mabolgampau blynyddol a gynhelir ar ddydd Sadwrn, yr 11eg o Awst ar Barc Bro Fana. Eleni, fe fydd cystadleuthau Merlodgampau (Gymkhana) yn dychwelyd i’r rhaglen ar ôl absennoldeb o rhyw chwarter canrif. Ysgrifennydd y Pwyllgor yw Mrs Ethel Davies, Llys Helen, gyda Mrs Janice Sidebottom, Dolaugwynion yn trefnu’u merlodgampau.
NEUADD BRO FANA
Mae pwyllgor Neuadd Bro Fana yn brysur yn paratoi rhaglen o weithgareddau ar gyfer gaeaf 2007 / 2008. Byddwn yn croesawi Côr Godre’r Aran yn ôl i’r Neuadd ar Nos Sadwrn y 3ydd o Dachwedd, gyda Mr a Mrs Raymond Roberts, Gelli Aur, Parcyrhos yn Llywyddion y noson. Byddwn yn croesawi ‘Lleisiau’r Werin’ o dan arweinyddiaeth Mrs Elonwy Davies, Llanybydder i’r ‘Cyngerdd a Noson o Garolau’ a gynhelir ar y Nos Sul cyn y Nadolig, sef y 23ain o Ragfyr. Mae’r noson yma yn gyfle i’r eglwys a chapeli’r ardal ymuno i gynnal gwasanaeth o fawl, a dathlu genedigaeth yr Iesu. Bydd Cerddordfa Siambr Llambed yn perfformio yn y Neuadd ar brynhawn dydd Sul, y 27ain o Ionawr 2008. Cafwyd cyngerdd arbennig yn eu cwmni ar ddechrau 2007, ac edrychwn ymlaen i’w croesawi eto. Mae trefniadau ar gyfer nifer o ddigwyddiadau arall hefyd i’w cwblhau, ac fe’u cyhoeddir yn ystod y misoedd nesaf.
CYRDDAU DIOLCHGARWCH
Bydd Eglwys y Methodistiaid, Saron, Cwm Twrch yn cynnal ei Cwrdd Diolchgawrch ar Nos Iau, y 13eg o Fedi gyda’r Parchedig Eileen Davies, Llanllwni yn gwasanaethu. Bydd yr Oedfa Ddiolchgarwch ym Methel, Cwm Pedol ar Nos Fercher y 26ain o Fedi gyda’r Parchedig Cynwil Williams, Caerdydd yn gwasanaethu.
mawrth 2007
LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Lewis Jenkins, Llys Awel ar ennill gwobr yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn Cymru am y trydydd blwyddyn yn olynnol – cystadleuaeth a drefnir gan EEF, sef sefydliad y gweithgynhyrchwyr. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae Lewis yn gweithio i gwmni Volac yn Felinfach, ac yn dilyn cwrs yng Ngholeg Sir Gâr.
DIOLCH
Dymuna Mrs May Roberts, Berthglyd ddiolch i bawb am eu cyfarchion ar adeg penblwydd go arbennig yn ddiweddar. Diolch o galon.
NOSON O DDRAMAU
Byddwn yn croesawi Cwmni Cudyll Coch, Llandeilo yn ôl i’r Neuadd ar Nos Sadwrn, y 14eg o Ebrill i berfformio dwy gomedi – ‘Ma’ newid yn change’ a ‘Ar y gêm’. Mae bob amser yn bleser croesawi’r cwmni yma yn ôl i’n plith, ac eleni, fe fydd Mr a Mrs Graham Evans, Felinfach, Cwmann yn Llywyddion. Mae gan Mrs Ceinwen Evans gysylltiad agos a’r ardal, ac edrychwn ymlaen i’w croesawi ar y noson.
LANSIO’R LLYFR HANES
Yn dilyn dros flwyddyn o waith ymchwil ac ysgrifennu, lansiwyd llyfr hanes lleol – ‘Hanes Neuadd Bro Fana a’r Gymuned Leol yn Ffarmers a Ffaldybrenin’ – ar nos wener, yr 2ail o Fawrth yn y Neuadd. ‘Roedd y Neuadd yn llawn dop ar gyfer y digwyddiad, a braf oedd cael croesawi nifer o blant yr ardal yn ôl i’n plith i ymuno yn y dathlu. Estynodd Mrs Ethel Davies, Cadeirydd Neuadd Bro Fana, groeso cynnes i bawb, a lansiwyd y llyfr yn swyddogol gan y Dr Brinley Jones CBE MA DPhil FSA. Yn ei anerchiad, cyfeiriodd Dr Jones at bwysigrwydd Cofio, Cofnodi a Cyflwyno, gan longyfarch y gymuned am fynd ati i gyhoeddi hanes yr ardal. Cyflwynwyd copi o’r llyfr i Dr Jones a’i briod, ynghyd a phlât yn dathlu’r achlysur. Cyflwynwyd copi arall o’r llyfr i Dr Jones yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, i’w drosglwyddo i’r Llyfrgell yn Aberystwyth. Anrhydeddwyd yr unigolion a wnaeth y gwaith ymchwil, ysgrifennu a gosod ar gyfer y gyfrol drwy gyflwyno iddynt blât dathlu yr un. Yn dilyn y rhannau ffurfiol o’r noson, ymunodd pawb i fwynhau’r lluniaeth a oedd wedi ei baratoi gan aelodau’r pwyllgor ar eu cyfer, a chafwyd noson gymdeithasol hwylus dros ben. Noddwyd y noson gan Milltir Sgwar, a diolchwn iddynt am ei cefnogaeth parod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae copïau o’r llyfr clawr caled ar gael am £12.50, a rhaid ychwanegu £2.50 os ydych am ei gael wedi ei bostio. Mae plâtiau dathlu ar gael am £15.00, ond mae’n rhaid eu casglu. Os am archebu llyfr neu blât, cysylltwch ag Ethel Davies (Cadeirydd) ar (01558) 650412; Irwel Jones (Trysorydd) ar 650535; neu Elfyn Davies (Ysgrifennydd) ar 650507, neu unrhyw aelod o Gyngor y Neuadd. Mae llyfrau ar werth yn ‘Y Swyddfa Bost’ Ffarmers; Y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth; ‘Siop y Smotyn Du’ Llambed; ‘Siop y Coleg’ Llambed; a ‘WDLewis a’i Fab’ Pumsaint. Diolch i bawb am eu cefnogaeth parod i’r prosiect hwn.
ionawr/chwefror 2007
LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Dafydd a Lynwen Jones, Fferm Llwynhenri, Porthyrhyd, Caerfyrddin ar enedigaeth mab – Jac Rees – yn ddiweddar; ŵyr i Alun a Beryl Thomas, Bryndolau.
GWELLHAD BUAN
Estynnwn ein dymuniadau gorau i rai o drigolion yr ardal yn dilyn cyfnodau yn yr ysbyty. Bu Mrs Eirwen Lewis, Ty’nddol yn Ysbyty Glangwili yn ddiweddar, ond da ei gweld adref ac o gwmpas unwaith eto. Un arall o drigolion yr ardal i dderbyn triniaeth law-feddygol yn ddiweddar yw John Rhys Evans, Gwladeithe. Mae Gareth Thomas, Bryndolau hefyd newydd dderbyn triniaeth law-feddygol yn Ysbyty Gobowen, ac bellach wedi dychwelyd adref. Yn olaf, treuliodd Rhodri Davies, Troed y Bryn gyfnod yn Ysbyty Caerlŷr yn derbyn triniaeth law-feddygol. Pob hwyl i’r pedwar ohonynt!
CYNGERDD CERDDORFA SIAMBR LLANBEDR PONT STEFFAN
Cafwyd prynhawn hwylus dros ben yn Neuadd Bro Fana ar ddydd Sul, yr 28ain o Ionawr yng nghwmni Cerddorfa Siambr Llanbedr Pont Steffan o dan arweiniad Elaine Parker a Wynford Jones, gyda Philip Mortlock yn flaenwr. Mae rhyw 30 o aelodau yn y Gerddorfa gan gynnwys chwaraewyr ffidil, fiola, bâs, ffliwt, obo, clarinet, basŵn, corn, trwmped a thimpani, a hyfryd oedd gweld nifer o gerddorion ifanc yn cael cyfle i ddatblygu eu doniau gyda’r Gerddorfa. Cafwyd rhaglen amrywiol o gerddoriaeth glasurol gan Schubert, Holst, Dvorak ac Elgar. Paratowyd paned a chacennau gan wragedd pwyllgor y Neuadd yn ystod yr egwyl, ac ‘roedd pawb, yn berfformwyr a gwrandawyr wedi mwynhau y gyngerdd. Trefnwyd y cyfan gan Elaine Parker, sy’n byw yn Ty’ncornel, Ffarmers, ar y cyd gyda phwyllgor y Neuadd.
.jpg)
TALWRN Y BEIRDD
‘Roedd y Neuadd yn llawn ar Nos Fawrth, y 30ain o Ionawr ar gyfer recordio dwy raglen i’r gyfres boblogaidd ‘Talwrn y Beirdd’. Dyma’r trydydd tro i’r BBC ddefnyddio Neuadd Bro Fana ar gyfer recordio rhaglenni i’r gyfres yma, a chafwyd noson arbennig yng nghwmni Gerallt Lloyd Owen a thîmoedd Llanbedr Pont Steffan yn erbyn Y Glêr, Aberystwyth; a Ffairhos yn erbyn Y Sgwad, Caerfyrddin. Mae’r ddwy ornest bellach wedi eu darlledu ar Radio Cymru.
CÔR GER Y LLI
Ar nos Sadwrn, y 3ydd o Chwefror, daeth ‘Côr Ger y Lli’ o ardal Aberystwyth i’r Neuadd i gynnal cyngerdd, ac eto, braf oedd gweld criw o bobl ifanc yn dod at eu gilydd, a chreu Côr safonol, o dan arweiniad medrus Greg Roberts. Cafwyd amrywiaeth o ganeuon traddodiadol, sioeau cerdd &c, a phawb wedi mwynhau y noson. Yn ogystal a’r canu, ‘roedd Eurig Salisbury, a oedd yn un o’r beirdd yn nhîm Talwrn y Beirdd ‘Y Glêr’ yng nghynt yn yr wythnos, yn barod i’n difyrru gydag ychydig o farddoniaeth. Llywyddion y Noson oedd Mr a Mrs Aneurin a Sallie Jones, Hathren, Llanbedr Pont Steffan – dau sydd a chysylltiad agos a Ffarmers – a chafwyd araith ddiddorol a phwrpasol ganddynt.
HEN BETHAU
A’r trefniadau wedi eu gwneud ar gyfer noson yng nghwmni Felix Aubel yn trafod hen bethau ar y 9fed o Chwefror, daeth yr eira, a bu raid cymeryd y penderfyniad i ganslo’r noson. ‘Rydym yn gobeithio ail-drefnu’r digwyddiad yma ar gyfer yr Hydref.
NOSON O DDRAMAU
Byddwn yn croesawi Cwmni Cudyll Coch, Llandeilo yn ôl i’r Neuadd ar Nos Sadwrn, y 14eg o Ebrill i berfformio dwy gomedi – ‘Ma’ newid yn change’ a ‘Ar y gêm’. Mae bob amser yn bleser croesawi’r cwmni yma yn ôl i’n plith.
HANES NEUADD BRO FANA A’R GYMUNED LEOL YN FFARMERS A FFALDYBRENIN
Mae criw o drigolion ardal Ffarmers a Ffaldybrenin wedi bod yn brysur ers dros flwyddyn bellach yn gwneud gwaith ymchwil ac ysgrifennu llyfr o hanes ardal Ffarmers a Ffaldybrenin. ‘Roedd yna deimlad o fewn yr ardal ers amser fod llawer o hanes lleol yn mynd ar goll, ac felly, dyma fynd ati i geisio cofnodi yr hyn a ellir cyn fod rhagor yn cael eu golli. Mae’r gyfrol yma yn cynnwys hanes Neuadd Bro Fana; Eglwys Llanycrwys, Capeli Bethel Cwm Pedol, Salem, Ffaldybrenin, Saron Cwm Twrch ac Esgairlas; Ysgolion Ffaldybrenin, Ffarmers a Blaentwrch; Cymdeithas Amaethyddol Caeo a Llanycrwys; Pwyllgor Mabolgampau Ffarmers; Clwb Ffermwyr Ieuainc Ffarmers a’r Cylch; Clwb y Groesffordd; Menter Gymunedol y Drovers ynghyd ac atgofion gan nifer o drigolion yr ardal. Mae’r llyfr yn hollol ddwy-ieithog, ac yn cynnwys nifer o luniau hen a diweddar. ‘Roedd yn amlwg wrth ymchwilio i hanes yr ardal fod yna lawer fwy o ddeunydd ar gael na fedru’r eu gynnwys yn y gyfrol yma.
Diolch i Wyn Jones, (Buarth yr Oen), Caerdydd; Joan Jones, Buarth yr Oen; Ray Davies, Peronne; Eunice Hughes, Geneu’r Glyn; Dewi Williams, Rhosybedw; Eryl Mathias, Ty’nwern; Joan Stacey, Tynwaun; Rhys Davies, Troed y Bryn ac Elfyn Davies, Troed y Bryn am eu gwaith yn ysgrifennu a pharatoi’r llyfr ar gyfer ei argraffu. Yn ogystal a chefnogaeth barod dros gant o danysgrifwyr, derbyniwyd cymorth ariannol o £1,000 oddiwrth Cronfa Milltir Sgwâr. Mae’r llyfr clawr caled yn cael ei argraffu gan Gwasg Gomer, Llandysul.
Cynhelir noson arbennig yn Neuadd Bro Fana, Ffarmers ar yr 2ail o Fawrth am 7.30 y.h. i lansio’r llyfr yn swyddogol. Y Gŵr Gwadd ar yr achlysur arbennig yma fydd Y Dr R Brinley Jones CBE MA DPhil FSA, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywydd Coleg Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Bydd plant Ysgol Carreg Hirfaen hefyd yn cymeryd rhan yn y gweithgareddau ar y noson. Estynnir croeso cynnes i chi i ymuno gyda ni i ddathlu cyhoeddi’r llyfr. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, ac mi fydd y llyfr ar werth ar y noson.