digwyddiadau

31/10/08 am 7.30 yh

Noson yng nghwmni y Prifardd Mererid Hopwood yn y Neuadd

06/12/08 am 7.30yh

Parti Cut Lloi yn y Neuadd

21/12/08 am 7.30yh

Cyngerdd a Noson o Garolau yn y Neuadd

 

 

hydref 2008

LLONGYFARCHIADAU
Estynnwn ein dymuniadau gorau i Mr a Mrs Lewis, Rhosawel ar ddathlu eu priodas ddiamwnt ar ddechrau'r flwyddyn, a phob hwyl i’r dyfodol.

DYMUNIADAU GORAU
Mae Mr Gomer Davies newydd dreulio cyfnod yn Ysbyty Gobowen, Croesoswallt yn derbyn triniaeth law-feddygol. Croeso ‘nôl adre, a dymuniadau gorau am adferiad llwyr a buan.

BORE COFFI MACMILLAN
Trefnwyd Bore Coffi yn Neuadd Bro Fana gan Mrs Yvonne Law, Ty Dŵr i godi arian tuag at elusen MacMillan Cancer Support ar y 27ain o Fedi. ‘Roedd y digwyddiad yn rhan o gyfres o foreau coffi tebyg a gynhleir ar draws gwledydd Prydain yn flynyddol i godi arian i’r elusen arbennig hon, a llwyddwyd i godi £301. Diolch i Mrs Law am wneud y trefniadau, ac i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y digwyddiad.

YMCHWIL CANCR CYMRU UK
Dymuna Mrs Heulwen Lloyd, Penbont ddiolch i bawb a gyfrannodd tuag at Ymchwil Cancr Cymru UK. Casglwyd cyfanswm teilwng o £478.77. Diolch yn arbennig i’r canlynol am ymgymeryd a’r gwaith o gasglu – Mr Alun Williams, Maesteg; Mr a Mrs Eirwyn Jones, Aberbranddu; Mrs Ethel Lewis, Derwen Fach; Mrs Eleri Davies, Cothi Vale; Mrs Jean Evans, Penarth; Mrs Ann Thomas, Llys Cothi; Mrs Mair Williams, Rhydlydan; Ms Mary Brighouse, Gwarallt a Mrs Ethel Davies, Llyshelen.

NEUADD BRO FANA
Mae rhaglen y gaeaf wedi cychwyn yn hwylus yn Neuadd Bro Fana gyda chyngerdd clasurol ar ddydd Sul, Hydref y 5ed. Perfformwyd amrywiaeth o gerddoriaeth gan Angela Brownridge ar y piano, gyda’r gynulleidfa wedi eu plesio’n fawr. Mae Ms Brownridge wedi graddio o Brifysgol Caeredyn, ac wedi astudio yn Rhufain a Llundain. Mae’n bianydd o fry, ac wedi chwarae gyda nifer o gerddorfeydd. Ym 2005, daeth yn Gyfarwyddwr Cerdd o’r Academi Biano yn Dean Clough, ac mae’n gweithio gyda myfyrwyr mewn dosbarthiadau meistri yn gyson. Bydd Ms Brownridge yn dychwelyd i’r Neuadd gyda Cherddorfa Siambr Llambed ar y 24ain o Ionawr i berfformio’r ‘Emperor Concerto’ o waith Beethoven.
Ar yr 11fed o Hydref, croesawyd ‘Côrdydd’ i’r Neuadd, a chafwyd noson arbennig yng nghwmni Côr o leisiau ifanc dysgybledig yn canu amrywiaeth o gerddoriaeth o dan arweiniad medrus Ms Sioned James gyda Branwen Gwyn wrth y piano. Llywydd y noson oedd Ms Rhiannon Griffiths, Aberhonddu (gynt o Ochrbryn) a chafwyd ganddi anerchiad diddorol a phwrpasol, a thalodd deyrnged i’r gymuned leol am y gwaith arbennig sydd yn cael ei wneud yn yr ardal, ac am y gefnogaeth barod i weithgareddau cymdeithasol. Yn ystod yr egwyl, cafwyd cyfle i groesawi Shân Cothi yn dilyn ei thaith ar gefn ceffyl i godi arian i elusen ‘amserjustintime’ a chyflwynwyd siec iddi, sef elw y Gyngerdd a Chymanfa Fodern a gynhaliwyd ar y 7fed o Fedi. Diolchwyd hefyd i Lloyds TSB, yn enwedig Mrs Heulwn Williams, am nodd o £500 tuag at y Gyngerdd a Chymanfa Fodern, ac felly sicrhau cyfanswm teilwng o £1,065 tuag at elusen ‘amserjustintime.’ Penderfynnodd ‘Côrdydd’ ofyn i bwyllgor y Neuadd roi ffi y Côr i’r elusen hefyd.
Cyflwynodd Mr Eirian Morgan, Cadeirydd Cyngor y Neuadd, ddreser fychan i Elfyn Davies, yr Ysgrifennydd, fel gwerthfawrogiad o’i gyfraniad i weithgaredd Neuadd Bro Fana dros gyfnod o 30 mlynedd.
Cofiwch fod ‘Parti Cut Lloi’ o dan arweiniad Siân James yn cynnal cyngerdd yn Neuadd Bro Fana ar nos Sadwrn y 6ed o Ragfyr. Llywydd y noson fydd Mrs Gladys Lewis, Dyffryn, Cae Dash, Llambed. Cynhelir y Gyngerdd a Noson o Garolau flynyddol eleni yn y Neuadd ar Nos Sul, yr 21ain o Ragfyr am 7.30. Yr unawdydd eleni fydd Ina Morgan, Llanfynydd, ac mi fydd elw’r noson yn cael ei gyflwyno i elusen ‘Ffagl Gobaith.’

MARATHON CAERDYDD
Bu pedwar o bobl ifanc y pentref yn rhedeg ym marathon Caerdydd ar y 19eg o Hydref, sef Lowri Davies ynghyd a Barrie ac Amanda Jones. Llongyfarchiadau iddynt am wneud yr ymdrech, a thrwy hynny godi swm sylweddol o arian i elusennau teilwng iawn.

LLANYCRWYS
Mae Eglwys Llanycrwys wedi trefnu Cyngerdd gyda ‘Bois y Castell’ i’w gynnal yn Neuadd Bro Fana ar Nos Sadwrn, y 29ain o Dachwedd am 7.30 y.h. Y Llywydd fydd Dr John G David, Henffordd – gynt o Peronne, Ffarmers. Yn dilyn hynny ar y 1af o Ragfyr, cynhelir Gyrfa Chwist flynyddol yr Eglwys yn y Neuadd.

nol i'r top

awst/medi 2008

LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Mr a Mrs Dafydd Jones, Porthyrhyd, Caerfyrddin ar enedigaeth merch fach – Lili Ela - chwaer i Jac, wyres i Mr a Mrs Alun Thomas, Bryndolau, a gor-wyres i Mrs Eirwen Thomas, Tynrheol. Dymuniadau gorau iddynt fel teulu.
Estynnwn ein cyfarchion i Rhys Davies, Troed y bryn a Siân Thomas, Bronhaul, Carno ar eu dyweddïad. Pob hapusrwydd i’r dyfodol.
Llongyfarchiadau gwresog i Mr a Mrs Francis Tooby, Maesisaf ar ddathlu eu priodas aur ar y 10fed o Fedi. Dymuniadau gorau i chi at y dyfodol.
Llongyfarchiadau i Mr a Mrs Gomer Davies, Troed y bryn wrth iddynt ddathlu eu priodas ddiamwnt ar yr 21fed o Fedi. Priodwyd hwy yng Nghapel Crugybar ym 1948 gan y diweddar Barchedig Glenville Rees, ac maent wedi byw yn Nhroed y bryn ers hynny. Dymuniadau gorau i chi.

DYMUNIADAU GORAU
Mae Rhiannon Thomas, Bryndolau wedi bod yn Ysbyty Glangwili yn ddiweddar yn derbyn triniaeth law feddygol. Pob hwyl i ti am wellhad llwyr a buan.

TAITH NODDEDIG AR GEFN CEFFYL
Soniwyd yn y rhifyn diwethaf o’r papur bro fod Shân Cothi a chriw o ffrindiau am farchogaeth o ogledd Cymru i’r de dros gyfnod o dair wythnos gan gychwyn yn Nhalacre ar y 25ain o Awst. Erbyn ysgrifennu’r darn yma, da nodi fod y criw wedi cyrraedd pen y daith, ac wedi llwyddo i godi arian sylweddol i elusen ‘amserjustintime’ – elusen a sefydlwyd gan Shân er cof am ei diweddar ŵr – Justin Smith – a fu farw o ganser y pancreas yn ifanc iawn flwyddyn yn ôl. Bydd yr arian a godwyd ar y daith yn cael ei ddefnyddio i ariannu gofal a thriniaeth i gleifion sy’n dioddef o’r canser yma yng Nghymru, yn ogystal ag ariannu ymchwil arbennig yn y maes.
Cafodd trigolion Ffarmers a’r cylch y cyfle i groesawi Shân a’u ffrindiau yn ystod y daith. Cyrhaeddodd y criw yn Ffarmers ar brynhawn Sadwrn, y 6ed o Fedi yn ystod Sioe Caio a Llanycrwys. Cafodd y ceffylau a’r merlotwyr lety yn Ffarmers ar y nos Sadwrn cyn ail-gychwyn are eu taith ar y bore Sul. Daeth tyrfa o gefnogwyr i bentref Ffarmers ar y bore Sul i ffarwelio a Shân wrth iddi gychwyn ar y daith, ac ymunodd dros hanner cant o ferlotwyr ar y daith o Ffarmers i Lanymddyfri dros Fynydd Mallaen – diwrnod sych, a phawb wedi cael hwyl arbennig wrth ymuno yn y bwrlwm. Ar y nos Sul, trefnwyd Cyngerdd a Chymanfa Fodern yn Neuadd Bro Fana i godi arian tuag at elusen ‘amserjustintime’. Llywydd y noson oedd Mr David Thomas, Cilgerran, Prifathro Ysgol Ffarmers yn ystod y cyfnod y bu Shân yn ddisgybl yno. Yn ei araith, cyfeiriodd at nifer o ddigwyddiadau difyr o’i gyfnod yn y pentref. Ymunodd Côr Rhianedd Rhys a ni a chynnal cyngerdd hyfryd o dan arweinyddiaeth Ffion Jones, gyda Mared Tomos yn cyfeilio. Yn ogystal, cafodd y gynulleidfa gyfle i ymuno a chanu amrywiaeth o emynau cyfoes o dan arweinyddiaeth Shân Cothi, a ddychwelodd o Lanymddyfri, yn dilyn diwrnod yn y cyfrwy, ar gyfer yr achlysur. Llwyddwyd i godi dros £1,000 o’r digwyddiad yma a gafodd ei noddi gan Fanc Lloyds TSB, a’r bwriad yw cyflwyno siec i Shân ar Nos Sadwrn, yr 11fed o Hydref pan fydd Côrdydd yn perfformio yn Neuadd Bro Fana. Yn ogystal a hyn, cafwyd cyfraniadau hael gan gefnogwyr ar ddydd y Sioe ac ar y bore Sul, a llwyddodd y merlotwyr i godi swm sylweddol trwy gael eu noddi. Mae manylion llawn ar wefan ‘amserjustintime’.

NEUADD BRO FANA
Mae rhaglen llawn o weithgareddau wedi eu trefnu gan Gyngor Neuadd Bro Fana ar gyfer y gaeaf. I gychwyn, ceir Cyngerdd Clasurol gyda’r pianydd Angela Brownridge yn perfformio gwaith gan Beethoven, Debussy, Chopin, Liszt a Scriabin ar brynhawn dydd Sul, Hydref y 5ed yn cychwyn am 3.30 y.p. Ar yr 11fed o Hydref, bydd Côrdydd yn ymuno a ni ar gyfer Cyngerdd Mawreddog – Côr yr Ŵyl, Eisteddfod Caerdydd 2008. Llywydd y Noson fydd M/s Rhiannon Griffiths, Aberhonddu (Ochrbryn gynt), a manteisir ar y cyfle i gyflwyno siec i Shân Cothi tuag at ‘amserjustintime’. Ar yr 31ain o Hydref, bydd Mererid Hopwood yn ymuno a ni yn y Neuadd – ac mae’n siwr y bydd hon yn noson ddifyr. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Cyhoeddus Blynyddol y Neuadd ar Nos Fawrth, y 14eg o Hydref – estynnir croeso cynnes i holl drigolion yr ardal i’r cyfarfod. Os am ragor o wybodaeth, neu archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau uchod, cysylltwch a’r Ysgrifennydd ar 01558 650507.

PARC BRO FANA
Mae’n dda gennym gyhoeddi fod grant sylweddol o £63,000 wedi ei ddyfarnu gan Gronfa y Loteri Fawr i ddatblygu parc chwarae i blant yr ardal. Mae criw o rieni a chyfeillion wedi bod wrthi ers rhai blynyddoedd bellach yn codi arian, a cheisio am grantiau, a hyfryd iddynt lwyddo yn eu hymdrechion. Diolch o galon i Mrs Janice Sidebottom, Dolaugwynion - Cadeirydd y grwp – a’r criw i gyd am eu gwaith caled. Y gobaith yw cychwyn ar y gwaith ar ddechrau’r flwyddyn gan gwblhau y cyfan erbyn gwanwyn 2009.

LLANYCRWYS
Mae Eglwys Llanycrwys wedi trefnu Cyngerdd gyda ‘Bois y Castell’ i’w gynnal yn Neuadd Bro Fana ar Nos Sadwrn, y 29ain o Dachwedd am 7.30 y.h. Y Llywydd fydd Dr John G David, Henffordd – gynt o Peronne, Ffarmers. Yn dilyn hynny ar y 1af o Ragfyr, cynhelir Gyrfa Chwist flynyddol yr Eglwys yn y Neuadd.

nol i'r top

gorffennaf 2008

CYDYMDEIMLAD
Blin iawn gennym gofnodi marwolaeth Mr Iwan Davies, 4 Bryntwrch yn frawychus o sydyn ar yr 2ail o Orffennaf. ‘Roedd yn adnabyddus yn yr ardal fel Iwan Llwyncelynmawr - lle cafodd ei fagu. Wedi gadael yr ysgol, bu’n gweithio yn Glanrwyth fel saer coed, lle y treuliodd flynyddoedd lawer. Wedi hynny, bu’n gwneud gwaith saer ac adeiladu o gwmpas y lle, ac wedi dal i weithio tan y diwedd. Estynnwn ein cydymdeimlad i’w frawd Dewi a’i chwaer Rhiana ynghyd a’r teulu a’r cysylltiadau oll. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol ym Methel, Cwm Pedol gyda’r Parchedig Goronwy Wynne yn gwasanaethu, a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Bethel.
Estynnwn ein cydymdeimlad hefyd i Mr a Mrs Wyn Jones a’r teulu yng Nghaerdydd yn dilyn marwolaeth tad Julie, sef Mr Gareth Thomas. ‘Roedd teulu Julie yn wreiddiol o Trapp, ond ‘roedd Mr a Mrs Thomas wedi ymgarterfu yng Nghaerdydd ers rhai blynyddoedd bellach. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Llanelli ar ddydd Gwener, yr 11fed o Orffennaf.

LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Dr a Mrs Jonathan Mullins, Sychnant ar enedigaeth eu mab, Deri Jacob – brawd bach i Taigh. Yn yr un modd, Gareth a Lorraine Jones, Blaenau ar enedigaeth mab – Gary – brawd bach i Jessica.
Estynnwn ein cyfarchion i Emyr Davies, Ciliau Aeron – gynt o Llwyncelynmawr – ar ennill gradd B.Sc. mewn adeiladu yn ddiweddar. Mae Emyr a’i deulu yn byw yng Nghiliau Aeron, ac mae’n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin fel Arolygwr Adeiladu. Pob hwyl i ti gyda dy yrfa Emyr.
Llongyfarchiadau hefyd i Nerys Jones, Caerdydd ar raddio o Goleg Meddygaeth Caerdydd yn ddiweddar. Mae Nerys yn ferch i Wyn a Julie Jones – Wyn yn hanu o Ffarmers, a Julie o Trapp – ac yn wyres i Mrs Joan Jones, Buarth yr oen. Pob lwc i ti Nerys yn dy swydd gyntaf yn Ysbyty Glangwili.
Mae tri o bobl ifanc yr ardal wedi eu hethol yn swyddogion Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Cothi am y flwyddyn sydd newydd gychwyn. Ian O’Connor, Buarth yr oen yw Cadeirydd y Clwb, gydag Aled Jones, Tyllwyd yn Is-gadeirydd, a Carys Thomas, Penywaun yn Drysorydd. Pob hwyl i’r tri ohonoch yn ystod y flwyddyn, ac i’r llu o rai arall o ddalgylch y Clwb sydd wedi derbyn swyddi. Llongyfarchiadau hefyd i Ian ar ennill cystadleuaeth gneifio yr adran ganol yn yr ornest flynyddol a drefnir gan y Clwb – Cneifio Cothi - ac a gynhelir ar Fferm Llandre, ac am lwyddo yng nghystadleuaeth y Ffermwyr Ifanc yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

TAITH NODDEDIG AR GEFN CEFFYL (o’r Gogledd i’r De!)
Ar Ddydd Llun Gwyl y Banc, Awst 25ain, bydd taith 3 wythnos yn cychwyn o’r Gogledd i’r De, o gymuned i gymuned, gydag un cerddwr a chwe marchog yn lawnsio elusen newydd o’r enw ‘Amser Justin Time’ – i godi arian ag ymwybyddiaeth o gancr creulon iawn, sef cancr y pancreas. Ar Fedi’r 6ed, sef 13 diwrnod i mewn i’r daith – bydd tim marchogaeth ‘Amser Justin Time’ yn teithio o Dregaron i Ffarmers! Shân Cothi bydd yn arwain y criw i gae Sioe Ffarmers gyda’i ffrindiau Brychan Llyr (cyflwynydd ‘Rasus Ar Garlam’ S4C ag ‘Against All Odds’ i’r BBC); Sian Jones (gwraig Brychan); Steffan Rhodri (actor - ‘Gavin and Stacey’ / ‘Con Passionate’); Chris Lewis (ffrind a golygydd) a Branwen Buckler (chwaer Justin).
‘Roedd Justin Smith yn ddyn arbennig iawn, yn gyfarwyddwr a golygydd teledu dawnus dros ben ac yn ŵr annwyl, cariadus i Shân Cothi. ‘Roedd llawer yn ei adnabod fel Pepsi Tate – y chwareuwr bas lliwgar drygionus o’r band glam roc enwog, Tigertailz, ac mae na golled mawr ar ei ôl o ganlyniad i’r clefyd creulon yma a ddifethodd ei fywyd yn 42 mlwydd oed. Mae ei weddw, y soprano Shân Cothi ynghyd a ffrindie agos, wedi sefydlu elusen newydd yn enw Justin, i godi ymwybyddiaeth o’r cancr creulon yma sef cancr y pancreas.
Bydd yr arian yn mynd at ariannu gofal a thriniaeth i gleifion sy’n dioddef o’r cancr yma yng Nghymru yn ogystal ag ariannu ymchwil arbennig yn y maes.
Os oes gennych ddiddordeb, bydd yna daith farchogaeth i gefnogi’r elusen yn cychwyn Dydd Sul Medi’r 7fed o Ffarmers i Lanymddyfri – dewch yn llu i gefnogi. Ceir manylion llawn ar y wefan – www.amserjustintime.org
Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth! Shân Cothi x
Yn ogystal a’r daith uchod, ar nos Sul, y 7fed o Fedi, cynhelir Cyngerdd a Chymanfa Fodern yn Neuadd Bro Fana i godi arian tuag at elusen ‘Amser Justin Time.’ Mae’r Cyngerdd a’r Gymanfa yn gyfle i drigolion yr ardal i gefnogi ymdrech Shân a’i chyfeillion. Llywydd y Noson fydd Mr David Thomas, Cilgerran – cyn brifathro yn Ysgol Ffarmers pan oedd Shân yn ddisgybl yno, ac mi fydd Côr Rhiannedd Rhys, Llanymddyfri yn ymuno a ni am y gyngerdd. Bydd manylion pellach ar gael yn agosach i’r digwyddiad.

YSGOL CARREG HIRFAEN
Yn y rhifyn diwethaf o’r Lloffwr, ‘roeddem yn dathlu’r ffaith fod Swyddfa Bost Ffarmers ddim yn un o’r rhai hynny oedd i gau o dan gynllun ad-drefnu swyddfeydd post yn yr ardal yma, ac fod Ysgol Llansadwrn ddim i gau wedi’r cyfan. Ond bron cyn i’r inc sychu ar dudalennau ein papur bro, daeth y newyddion brawychus fod Ysgol Carreg Hirfaen i gau unedau Ffarmers a Llanycrwys, a throsglwyddo’r plant i gyd i Goedmor ym mis Medi. Sefydlwydd Ysgol Carreg Hirfaen fel Ysgol Ffederal yn y flwyddyn 2000, ac o’r cychwyn, mae wedi profi yn llwyddiant gyda nifer y disgyblion wedi cynyddu, a’r cynllun ffederal yma yn cael ei gyflwyno fel engraifft dda o’r ffordd i weithredu mewn ardaloedd gwledig. ‘Roedd y newydd am gau y ddwy safle ar ddiwedd y tymor yma yn syndod i bawb, yn enwedig y plant a’r rhieni, gan mae’n debyg nad oedd unrhyw ymgynhori wedi bod gyda’r rhieni. Yn ogystal a hyn, oherwydd fod diffyg lle yn Coedmor, mae’n fwriad gan y Cyngor Sir roi caban ‘ail-law’ yn iard Coedmor er mwyn cymeryd y plant – fydd hyn, wrth gwrs, yn rhyddhau dau adeilad parhaol – Ffarmers a Llanycrwys - i’r Cyngor Sir eu gwerthu. Mae dau gaban yn Coedmor eisoes, ac os gweithredir y cynllun yma, bydd tua hanner y plant yn derbyn eu haddysg mewn cabannau dros dro!
Fel y gellir dychmygu, nid yw’r cynllun yma wedi derbyn cefnogaeth rhieni ardal Ffarmers a Ffaldybrenin, ac maent eisoes yn ymgyrchu i newid y penderfyniad. Mae’n debyg eu bod yn barod i dderbyn cau un o’r ddwy uned, a chael plant unedau Ffarmers a Ffaldybrenin ar un uned gyda’u gilydd, ond mae’r syniad o gludo’r holl blant i Goedmor yn ddyddiol yn annerbyniol iddynt. Mae nifer o gyfarfodydd wedi cymeryd lle yn barod i geisio datrys y mater gyda Phwyllgor Rhieni yn arwain yr ymgyrch i sicrhau tegwch. Cynhaliwyd cyfarfod agored yn Neuadd Bro Fana ar y 19fed o Orffennaf gyda’r Neuadd yn llawn i wrando ar nifer o siaradwyr yn cefnogi eu hymgyrch, ac ‘roedd yn amlwg fod trwch poblogaeth y fro yn gefnogol i safbwynt y rhieni, ac mae’n ymddangos y gall hon fod yn frwydr hir. Cafwyd cefnogaeth gadarn cynghorwyr lleol, ac ‘roedd arweinydd grwp Plaid Cymru yn y Cyngor Sir – y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths – yn barod i ddadlau ynghyd a’r aelodau lleol am ail edrych ar y cynlluniau ar gyfer Ysgol Carreg Hirfaen.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn honni ei bod yn pryderu am yr amgylchedd, ac yn dilyn polisiau gwyrdd, ond maent yn barod i dorri cylludeb Ysgol Carreg Hirfaen, ac yn sgil hynny, torri swyddi athrawon, a gwario dros £50,000 y flwyddyn ar gludo plant mewn bws o Ffarmers a Ffaldybrenin i Goedmor bob dydd. Mae’n debyg hefyd ei bod wedi neilltuo £200,000 ar gyfer darparu a gosod caban ‘ail-law’ yn Coedmor. Maent yn cyfiawnhau hyn wrth egluro fod yr arian yma yn dod allan o wahanol ‘pot!’ Yn ogystal a hyn, fydd plant dan 5 oed ddim yn cael eu cludo i’r ysgol, ac os na fydd rhieni yn medru gwneud taith o 15 milltir ddwy waith y dydd i gludo’r plant yma i Goedmor, bydd y plant yn cael eu amddifadu o’r ‘cyfnod sylfaen’ holl bwysig sydd yn cael eu gyflwyno yn ysgolion Cymru. Mae yna ansicrwydd hefyd ynglŷn a nifer o agweddau arall o’r trefniant mae’r Sir am ei cyflwyno, ac mae’n ymddangos fod y Sir yn anfodlon i gwrdd a thrafod y sefyllfa.
Aeth tua 70 o rieni, plant a chefnogwyr i Neuadd y Sir ar y 18fed o Orffennaf i brotestio am gynlluniau’r Sir, a phenderfynwyd gan y Cyngor llawn fod y mater i’w anfon yn ôl i’r bwrdd gweithredol i gael ystyriaeth bellach. Erbyn hyn, mae’r bwriad i gau unedau Ffarmers a Ffaldybrenin ddiwedd tymor yr haf wedi ei roi naill ochor, ac mi fydd y plant yn ail gychwyn tymor yr hydref yn yr unedau fel arfer. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r ymgyrchwyr ddwysáu eu hymgyrch.

nol i'r top

mehefin 2008

CYDYMDEIMLAD
Estynnwn ein cydymdeimlad i deulu y diweddar Mrs Dorothy Jukes, Ffawyddog a fu farw yn ddiweddar yn 95 oed. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys Llanycrwys ar ddydd Gwener, y 6ed o Fehefin, ac wedyn yn Amlosgfa Aberystwyth. Cydymdeimlwn hefyd a theulu y diweddar Mrs Ann Hughes, Carmel, Crosshands a fy farw yn dilyn cyfnod hir o afiechyd. ‘Roedd Ann yn adnabyddus i ni yn ardal Ffarmers fel Ann Dolaucanol.

PENBLWYDD HAPUS
Penblwydd hapus i Mrs Audrey Jones, Glanyreryr ar ddathlu ei phenblwydd yn bedwar ugain a deg oed.

DIOLCH
Dymuna Mrs Joan Davies, Troed y bryn ddiolch i’w holl ffrindiau a pherthnasau am eu dymuniadau da a’u anrhegion pan iddi ddathlu ei phenblwydd yn bedwar ugain oed yn ddiweddar. Diolch o galon.

LLONGYFARCHIADAU
Mae’n dda gweld ieuenctid yr ardal yn llwyddo mewn gwahanol feusydd, a rhaid llongyfarch dau o fechgyn lleol ar eu llwyddiant yn ddiweddar. Mae Ian O’Connor a Adrian Evans y ddau ohonynt yn gneifwyr penigamp, ac yn ogystal a phrofi llwyddiant yn lleol yng nghystadleuthau’r ffermwyr ifanc, mae’r ddau ohonynt hefyd wedi ennill gwobrau mewn cystadleuthau y tu allan i Gymru yn Sioe y Bath & West ac hefyd yn y Devon County yn ddiweddar. Da iawn chi.
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Gwennan Evans ar gael swydd yng Nghaerdydd fel Swyddog Llenyddiaeth gyda’r ‘Academi.’ Mae Gwennan - sy'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Ffarmers ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan - newydd raddio o Goleg Prifysgol Cymru Bangor ar ôl dilyn cwrs gradd mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol. Pob hwyl i ti gyda dy yrfa.
Pob lwc i Carys Thomas, Penywaun fydd yn dilyn cwrs cerddorol gyda Chôr y Tair Sir yng Ngholeg Llanymddyfri ar ddechrau mis Gorffennaf, ac yn perfformio gyda’r Côr yn Neuadd y Celfyddydau yn Aberystwyth ar y 9fed o Orffennaf. Llongyfarchiadau i ti hefyd ar lwyddo gyda’r prawf gyrru!

CYMANFA BEDYDDWYR CYLCH CAIO A LLAMBED
Cynhaliwyd y Gymanfa Flynyddol eleni ym Methel, Cwm Pedol ar ddydd Sul, y 18fed o Fai o dan arweinyddiaeth medrus Mrs Carys Lewis, Cwmann. Mrs Llinos Jones o Noddfa, Llambed oedd Llywydd oedfa’r plant yn y prynhawn, a chafwyd araith bwrpasol i’r plant. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Dafydd ac Alwyn Morgan a Deian Thomas o Fethel, a chafwyd eitem gan blant Ysgol Sul Noddfa o dan arweiniad Mrs Janet Evans. Mr Eirian Morgan, Bethel Cwm Pedol oedd Llywydd oedfa’r oedolion yn yr hwyr gydag Eirian, a Rhys Davies o Fethel yn cymeryd at y rhannau arweiniol. Cafwyd cymanfa hwylus gyda the bendigedig wedi ei baratoi yn y festri rhwng y ddwy oedfa – a gan ei bod yn brynhawn hyfryd, ‘roedd cyfle i eistedd yn yr haul rhwng yr oedfaon a sgwrsio.

NOSON CAWS A GWIN
Cafwyd noson hwylus dros ben yn Neuadd Bro Fana ar nos Wener, y 23ain o Fai pryd y cynhaliwyd Noson Caws a Gwin. Cyfle gwych i gymdeithasu a phrofi amrywiaeth o winoedd a chaws. Croesawyd Maugan, Kim a Rob o Gwmni Caws Gorwydd, Llanddewi Brefi lle y cychwynwyd a’r busnes gwneud caws gan y teulu ‘Trethowan’ ym 1996. Erbyn hyn mae’r caws yn cael ei werthu trwy wledydd Prydain, yn Ewrop, Yr Unol Daleithiau a Chanada. Caws Caerffili yw’r cynnyrch, a gwnaeth ein gwesteion egluro’n fanwl y broses o wneud y caws, ei aeddfedu, a’r gofal a gymerir o’r cosyn hyd nes iddo gael ei werthu. Mae teulu Trethowan wedi profi llwyddiant sylweddol gyda’r caws gan ennill gwobrau yng nghystadleuthau caws ym Mhrydain ac yn fyd-eang. Enillwyd ‘Caws Gorau Prydain’ ganddynt yn 2005. Yn ogystal a phrofi Caws Gorwydd, ‘roedd yna amrywiaeth o gaws Cymreig arall ar gael i’w blasu gan gynnwys Pont Gâr, Caws Blaenafon a Chaws Tyndyrn – a dewis o winoedd a port safonol i wneud y noson yn brofiad arbennig. Mae galw am nosweithiau tebyg i’w cynnal eto’n fuan!

LLEISIAU LLEOL
Mae Cyngor Neuadd Bro Fana wedi derbyn gwahoddiad i ymuno mewn prosiect cyffrous – ‘Lleisiau Lleol’ – trwy recordio a chadw atgofion cymeriadau yr ardal yma. Bydd aelodau o’r Cyngor yn derbyn hyfforddiant hanes llafar fydd yn eu galluogi i fynd ati i recordio a chasglu tystiolaeth bwysig am gymeriadau a thrigolion yr ardal, gyda Chynllun Milltir Sgwar yn ariannu a chefnogi’r gweithgaredd. Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn cael eu olygu a’i recordio ar DVD ac yn cael eu storio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Bydd copïau ychwanegol o’r DVD yn cael eu cynhyrchu ar gyfer eu gwerthu. Mae’r prosiect yma yn dilyn ymlaen o’r Llyfr Hanes a gyhoeddwyd ar ddechrau 2007, a’r Archif Gymunedol o Hen Luniau sydd yn cael ei sefydlu ar gyfer Plwyfi Cynwyl Gaeo a Llanycrwys.

CYNGERDD A CHYMANFA GANU
Ar nos Sul, y 7fed o Fedi, cynhelir Cyngerdd a Chymanfa Fodern yn Neuadd Bro Fana i godi arian tuag at elusen ‘Amser Justin Time’ – elusen a sefydlwyd gan Shân Cothi er cof am ei phriod Justin, i godi ymwybyddiaeth a rhoi gofal i gleifion sy’n dioddef o gancr y pancreas. Mae Shân a nifer o’i chyfeillion yn mynd i farchogaeth o Brestatyn yn y gogledd i lawr drwy’r canolbarth, ac ‘nôl i Gaerdydd i godi arian i’r elusen, ac mi fydd y marchogion yn cyrraedd Ffarmers ar y 6ed o Fedi – sef diwrnod Sioe Caeo a Llanycrwys. Mae’r Cyngerdd a’r Gymanfa yn gyfle i drigolion yr ardal i gefnogi ymdrech Shân a’i chyfeillion. Bydd manylion pellach ar gael yn agosach i’r digwyddiad, a gallwch ymweld a gwefan y pentre ar www.ffarmers.org

SWYDDFA’R POST
Mae llawer o drafodaeth wedi cymeryd lle yn ystod y misoedd diwethaf ynglyn a dyfodol ein swyddfeydd post, a daeth cadarnhad yn ystod yr wythnosau diwethaf fod nifer o swyddfeydd i gau. Mae’n dda cael ar ddeall fod Swyddfa Bost Ffarmers yn cael ei chadw ar agor – yn wir, hon fydd yr unig swyddfa bost rhwng Llambed a Llanymddyfri / Llambed a Llandeilo, gan fod Cwmann a Llanwrda i gau dan y cynllun diweddaraf. Tan yn gymharol ddiweddar, ‘roedd pedair swyddfa bost ym mhlwyf Cynwyl Gaeo, ond erbyn hyn, dim ond un sydd ar ôl, ac mae’r rhan fwyaf o bentrefi’r ardal wledig yma eisoes wedi colli’r gwasanaeth. Ers rhyw 15 mlynedd bellach, mae’r Swyddfa Bost wedi ei lleoli yn Neuadd Bro Fana gan gynnig gwasanaeth ar fore Llun, Mawrth, Iau a Gwener o 9.00 hyd hanner dydd. Gobeithio y llwyddir i gadw’r gwasanaeth yma, er, rhaid cyfaddef ei bod yn frwydr barhaol i gynnal gwasanaethau yng nghefn gwlad gyda’r Cyngor Sir yn awyddus i gau ein hysgolion a gwerthu’r adeiladau am arian mawr; hefyd, caewyd nifer o’r cyfleusterau cyhoeddus yn ein pentrefi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r siopau a’r tafarndau yn cau. Mae bron yn amhosib i’n pobl ifanc ddod o hyd i dai yn ein pentrefi, a chaniatad cynllunio yng nghefn gwlad yn beth prin iawn. Tybed a oes yna agenda wleidyddol i gau lawr ein cymunedau cefn gwlad?

CARNIFAL A MABOLGAMPAU
Bydd y Carnifal a’r Mabolgampau blynyddol yn cael eu cynnal eleni ar ddydd Sadwrn, y 9fed o Awst ar Barc Bro Fana, gyda Mr Wyn Williams, Aberaeron (Rhosybedw gynt) yn Llywydd y dydd. Yn ogystal a gweithgareddau’r dydd, bydd yna hefyd Helfa Drysor yn cychwyn o’r pentref. Bydd manylion llawn i’w gweld ar y rhaglenni a’r posteri yn agosach i’r dydd, neu gallwch gysylltu a Mrs Ethel Davies yr Ysgrifennydd ar 01558 650412 am ragor o wybodaeth.

nol i'r top

ebrill 2008

CYNGOR CYMUNED CYNWYL GAEO
Dymuna Cyngor Neuadd Bro Fana ddiolch i’r Cyngor Cymuned am rodd o £300 tuag at y Neuadd. Gwerthfawrogir yn fawr y cyfraniad arbennig yma tuag at y gost o gynnal Neuadd Bro Fana at ddefnydd y gymuned leol.

CWMNI CUDYLL COCH
Daeth cyfle unwaith eto eleni i groesawi Cwmni Cudyll Coch o Landeilo i berfformio yn Neuadd Bro Fana. Wrth groesawi’r Cwmni Drama a’r gynulleidfa, cyfeiriodd Mr Eirian Morgan, Cadeirydd Cyngor y Neuadd, at farwolaeth Mr Jack Davies, Glantwrch, Pumsaint yr wythnos flaenorol. ‘Roedd Mr Davies wedi derbyn gwahoddiad i lywyddu’r noson, a phawb wedi edrych ymlaen i’w groesawi yn Llywydd, a chael y cyfle i’w longyfarch ar gael ei anrhydeddu gyda’r M.B.E ar ddechrau’r flwyddyn. Bu Jack Davies yn gynhorwr bro am flynyddoedd lawer, ac yn gefnogol i weithgareddau’r gymdogaeth. Fel arwydd o barch, safodd y gynulleidfa mewn tawelwch cyn cychwyn a’r dramau. Derbyniwyd rhodd garedig oddiwrth deulu Tremavon tuag at y Neuadd er cof am Jack Davies, a diolchir iddynt am eu haelioni. Eleni, cafwyd perfformiad o ddwy gomedi - ‘Iechyd Da’ gan David Jones a ‘Gweld Sêr’ gan Peter Hughes Griffiths – a’r gynulleidfa wedi mwynhau fel arfer.

JONSI
Daeth BBC Radio Cymru i’r pentre ar y 18fed o Ebrill i ddarlledu rhaglen ddyddiol ‘Jonsi’ – braf oedd cael croesawi’r criw i’r Neuadd. Yn ystod y rhaglen, cafodd Jonsi sgwrs gyda rhai o blant yr ysgol, a thrigolion yr ardal, ac ‘roedd aelodau Cyngor y Neuadd wedi paratoi lluniaeth ysgafn i bawb a ymunodd i wrando a chymeryd rhan yn y rhaglen. Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y darllediad.

PENBLWYDD HAPUS
Penblwydd Hapus i Mrs Joan Davies, Troed y bryn ar ddathlu ei phenblwydd yn bedwar ugain oed yn ddiweddar. Cafwyd diwrnod o ddathlu gyda theulu a chyfeillion yn galw heibio i rannu yn y dathliadau.

nol i'r top

mawrth 2008

PARC BRO FANA
Dros adeg y Nadolig, bu nifer o drigolion ardaloedd Ffarmers a Llanycrwys yn canu Carolau i godi arian at Gronfa Parc Bro Fana. 'Roedd y gweithgareddau o dan oruwchwyliaeth Miss Lowri Davies a chasglwyd cyfanswm o dros £780. Dyma rai o'r cantorion yn derbyn siec oddi wrth Lowri fel rhan o'r cynllun punt-am-bunt a noddwyd gan Fanc Barclays. Diolchwn am y cyfraniad hael at yr achos.

CWMNI CUDYLL COCH
Bydd Cwmni Cudyll Coch o Landeilo yn ymweld a’r Neuadd eleni eto ar y 12fed o Ebrill pryd y byddant yn perfformio dwy gomedi – ‘Iechyd Da’ gan David Jones a ‘Gweld Sêr’ gan Peter Hughes Griffiths. Llywydd y noson fydd Mr J.H. Davies M.B.E., Glantwrch, Pumsaint – un sydd yn rhoi cefnogaeth barod i holl weithgareddau’r gymuned, ac sydd wedi rhoi gwasanaeth fel cynghorwr bro yn yr ardal yma am flynyddoedd. Estynnir croeso cynnes i chi ymuno a ni – bydd y noson yn cychwyn am 7.30 y.h.

NOSON CAWS A GWIN
Cynhelir Noson Caws a Gwin yn y Neuadd ar nos Wener y 23ain o Fai am 8.00 o’r gloch. Yn ogystal a chael mwynhau gwydred neu ddau o win, bydd yna hefyd gyfle i flasu amrywiaeth o gaws, ac mi fydd Mr Maugan Trethowan o gwmni ‘Caws Gorwydd’ Llanddewi Brefi yn ymuno a ni i sôn am y broses o wneud caws. Mae’r cwmni yma yn cynhyrchu Caws Caerffili sydd yn hynod boblogaidd, ac yn cael ei ddosbarthu yn eang, a’u allforio. Bydd yna hefyd arbenigwr ar winoedd yn ymuno a ni i rannu rhai o gyfrinachau y diwydiant gwinoedd. Dyma gyfle i chi fwynhau a dysgu ar yr un pryd. Mae croeso i chi ymuno a ni.

BBC RADIO CYMRU
Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu rhaglen foreol ‘Jonsi’ o Neuadd Bro Fana ar ddydd gwener, y 18fed o Ebrill rhwng 8.30 a 10.30 y bore. Estynnir croeso cynnes i ddarllenwyr Y Lloffwr i droi mewn yn ystod y bore.

CYMANFA BEDYDDWYR CYLCH CAIO A LLAMBED
Cynhelir y Gymanfa Flynyddol eleni ym Methel, Cwm Pedol ar y 18fed o Fai gydag oedfa’r plant am 2.30 y.p. ac oedfa’r oedolion am 6.00 y.h. Yr arweinydd eleni fydd Mrs Carys Lewis, Tŷ Cerrig, Cwmann. Darperir lluniaeth yn Festri’r Capel rhwng y ddwy oedfa, ac estynnir gwahoddiad cynnes i gyfeillion ymuno a ni. Defnyddir rhaglen y Cymanfaoedd Canu Cyd-enwadol.

nol i'r top

ionawr/chwefror 2008

AMBIWLANS AWYR CYMRU
Ymwelodd Mrs Ann Edwards o Dregaron a Ffarmers ar y 12fed o Chwefror i dderbyn siec o £540 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Codwyd yr arian yma yn y Gwasanaeth Garolau flynyddol a drefnir yn Neuadd Bro Fana ar y Sul cyn y Nadolig, ac ‘roeddem yn ffodus o gael cefnogaeth barod Lowri Davies o Fanc Barclays a noddodd y noson gyda’r cynllun £1 am £1. Yn ei araith, diolchodd Mrs Edwards i bawb am eu cefnogaeth parod, gan fod y gwasanaeth arbennig yma yn hollol ddibynnol ar y math yma o gefnogaeth ariannol.

CYNGERDD CLASUROL
Cafwyd cyfle unwaith eto i groesawi Cerddorfa Siambr Llanbed o dan arweiniad Mrs Elaine Parker o Tyncornel, Ffarmers, yn ôl i’r Neuadd ar brynhawn dydd Sul, y 27ain o Ionawr i gynnal cyngerdd o gerddoriaeth glasurol. Cafwyd prynhawn hwylus yn eu cwmni eleni eto, a pherfformiwyd gwaith gan Rossini, Bach, Bartok, Mozart a Haydn. Mae’n hyfryd gweld cerddorion amatur yn dod at eu gilydd, ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc - nifer ohonynt o’r ardal yma - i ddatblygu eu doniau gyda’r gerddorfa.

LLOFFA
Daeth Yr Athro David Thorne o Goleg Dewi Sant i’r Neuadd ar Nos Fawrth, yr 11fed o Chwefror, a chafwyd noson ddifyr yn ‘lloffa ym myd enwau lleoedd lleol’. ‘Roedd yn gyfle gwych i ddysgu am darddiad enwau rhai o’r lleoedd o gwmpas yr ardal yma, nifer ohonynt yn dyddio ‘nôl ganrifoedd lawer. ‘Rydym yn ddiolchgar dros ben i gynllun ‘Milltir Sgwar’ am noddi’r noson. Mae’r cynllun yma wedi cefnogi nifer o nosweithiau addysgiadol yn Neuadd Bro Fana dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac wedi ein galluogi i wahodd siaradwyr o safon i ddarluthio i ni. Cafwyd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd hefyd ar gyfer y rhai na ddeallai Gymraeg.

TRWYDDED CLUDO ANIFEILIAID
Manteisiodd tua wythdeg o ffermwyr ar y cyfle i dderbyn hyfforddiant a chael prawf ar gyfer trwydded cludo anifeiliad, yn Neuadd Bro Fana ar ddechrau’r mis. ‘Roedd yna ffermwyr o Dregaron i Lanfynydd, ac o Lanwnen i Lanymddyfri yn bresennol, y rhan fwyaf ohonynt yn cymeryd y prawf ar gliniadur. Darparwyd y cwrs gan Ganolfan Asesu Canolbarth Cymru a’r Gororau. Diolch i John Mercer a Rhys Davies am wneud y trefniadau.

CEFNOGAETH ARIANNOL
Dymuna Cyngor Rheolaeth Neuadd Bro Fana ddiolch o galon i’r Cynghorydd Eirwyn Williams am sicrhau £800 o Gronfa Brosiectau Lleol y Cyngor Sir. Mae’r arian yma i’w ddosbarthu gan gynghorwyr i fudiadau gwirfoddol o fewn eu etholaethau.

AILGYLCHU
Os oes gennych hen getris inc o’ch argraffydd, gallwch fynd a hwy i’r Swyddfa Bost yn Ffarmers, a’u gadael mewn blwch ail-gylchu arbennig. Bydd y blwch yn cael ei wacáu yn reolaidd, ac fe fydd y Neuadd yn derbyn tâl fel cydnabyddiaeth am ail-gylchu.

NOSON CAWS A GWIN
Cynhelir Noson Caws a Gwin yn y Neuadd ar nos Wener y 23ain o Fai am 8.00 o’r gloch. Yn ogystal a chael mwynhau gwydred neu ddau o win, bydd yna hefyd gyfle i flasu amrywiaeth o gaws, ac mi fydd Mr Maugan Trethowan o gwmni Caws Gorwydd, Llanddewi Brefi yn ymuno a ni i sôn am y broses o wneud caws. Mae’r cwmni yma yn cynhyrchu Caws Caerffili sydd yn hynod boblogaidd, ac yn cael ei ddosbarthu yn eang, a’u allforio. Bydd yna hefyd arbenigwr ar winoedd yn ymuno a ni i rannu rhai o gyfrinachau y diwydiant gwinoedd. Dyma gyfle i chi fwynhau a dysgu ar yr un pryd. Mae croeso i chi ymuno a ni.

nol i'r top