newyddion

12fed Mawrth, 2008

Llyfr Hanes Ffarmers ar gael ar-lein!

Cliciwch yma i fynd i'r siop ar lein!

digwyddiadau

NEUADD BRO FANA

23/05/08 am 8.00 y.h.
Noson Caws a Gwin

BETHEL CWM PEDOL

18/05/08 am 3.30 y.p. a 6.30pm y.h.

Cymanfa Bedyddwyr Cylch Caeo a Llanbed. Arweinydd - Mrs Carys Lewis, Cwmann

croeso i ffarmers

Pentre bach ym mhlwyf Cynwyl Gaeo yw Ffarmers, i'r gogledd o'r A482 sy'n arwain o Lanwrda i Lanbedr Pont Steffan. Mae'r pentref yn cymeryd ei enw o'r Farmers' Arms - un o dafarnau'r pentref sydd bellach wedi cau. Mae'r Ffordd Rufeining - Sarn Helen - yn mynd drwy'r pentref, ac 'roedd y pentref yn ganolfan bwysig i'r porthmyn wrth yrru stoc o Geredigion i farchnadoedd Lloegr. Mae'r Drovers' Arms yn dal yn ganolfan bwysig i bobl leol - mae'r tafarn ym mherchnogaeth trigolion yr ardal ers canol y nawdegau - Menter Gymunedol y Drovers.

welcome to ffarmers

Mae rhyw 50 o dau preswyl o fewn ffiniau'r pentref, a nifer o ffermydd a thai preswyl yn yr ardal o gwmpas y pentref. Mae'r ysgol leol yn ffynnu, ac yn rhan o ysgol ffederal Ysgol Carreg Hirfaen. Mae hefyd Neuadd fawr yn y pentref - Neuadd Bro Fana - a agorwyd ym 1931 gyda neuadd gyngherddau, ystafell snwcer a chanolfan TG &c., ynghyd a chae chwarae i drigolion yr ardal.

ffarmers in the shadow of craig twrch

Mae Ffarmers wedi ei leoli o fewn ardal a adnabyddir yn lleol fel Cwm Twrch, a gerllaw yr afon Twrch sydd yn ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Cynwyl Gaeo a Llanycrwys.